Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Rownd 2

Cronfa gwerth £150 miliwn dros 4 blynedd i gefnogi grwpiau cymunedol ar draws Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gymryd perchnogaeth o asedau sydd mewn perygl o gael eu colli o gymunedau.

Yn cau ar Ragfyr 14eg 2022.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Cronfa Cymunedau Arfordirol Llywodraeth Cymru

Mae’r uchod yn ceisio cefnogi datblygiad economaidd cymunedau arfordirol drwy hyrwyddo tyfiant economaidd a chread swyddi, fel bod pobl yn gallu ymateb yn well i anghenion a chyfleoedd economaidd newidiol yn yr ardal.

Am fwy o wybodaeth ebostiwch: ccfwales@tnlcommunityfund.org.uk

Cliciwch yma am wiriad cymhwysedd.


Ymddiriedolaeth Elusennol Yapp-

Mae’r uchod yn cynnig grantiau i elusennau cofrestredig sydd â chyfanswm gwariant blynyddol  o lai na £40,000.  Mae grantiau o hyd at £9,000 (uchafswm o £3,000 y flwyddyn dros 3 blynedd) ar gael.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.