Mae Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol Y Cynnig Gofal Plant i Gymru yn awr yn FYW!

Lansiwyd gwasanaeth newydd Cynnig Gofal Plant Digidol Cymru ar 7 Tachwedd. Bydd angen i unrhyw riant sydd eisiau cael gofal plant wedi’i ariannu gan y Cynnig o fis Ionawr wneud cais drwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd. Bydd angen i unrhyw leoliad gofal plant sy’n dymuno darparu oriau sy’n cael eu hariannu gan y Cynnig gofrestru gyda’r gwasanaeth newydd. 

Ni fydd yn bosib i rieni gadarnhau Cytundebau Cynnig Gofal Plant gyda darparwyr os nad yw’r darparwyr wedi cofrestru neu wedi actifadu cyfrif eu lleoliad. 

 Gwnewch yn siŵr os gwelwch yn dda, os ydych am ddarparu gofal plant o dan Gynnig Gofal Plant Cymru eich bod wedi cofrestru ac wedi actifadu eich lleoliad ar y gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd. 

 Am unrhyw wybodaeth bellach am y gwasanaeth ewch i Cyflwyniad i wasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru i ddarparwyr | LLYW.CYMRU 

 Am wybodaeth am sut i actifadu eich lleoliad, ewch i Actifadu eich lleoliad gofal plant i gael Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU 

 Am gymorth pellach, cysylltwch â’ch tim gofal plan yn eich awdurdod lleol. 

Mae recordiadau o’r Digwyddiad Byw ac arweiniad ar Gytundebau i ddarparwyr yn awr ar gael yma.