Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Dydd Llun y 21ain o Dachwedd 2022 – Dydd Sul 27ain o Dachwedd 2022 Wythnos Diogelu 

Dyma gyfle i sefydliadau ddod at ei gilydd i drafod a chodi ymwybyddiaeth ynghylch materion diogelu. Bydd pob diwrnod o’r wythnos yn amlygu mater pwysig ynghylch diogelu. Bydd digwyddiadau wedi’u trefnu, seminarau, adnoddau ac asedau cyfrwng-cymdeithasol yn cael eu rhyddhau drwy’r wythnos gyfan ar wefan Ymddiriedolaeth Ann Craft. Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan.


Dydd Llun y 21ain o Dachwedd 2022 – Dwirnod Teledu’r Byd         

Ers 1996 mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dathlu Diwrnod Teledu’r Byd i gydnabod yr effaith bwysig sydd gan deledu yn fyd-eang. i gydnabod pwysigrwydd y cyfryngau, ac yn enwedig y teledu, ar ffocws ar y byd, penderfyniadau a gwybodaeth am wrthdrawiadau a bygythiadau i heddwch a diogelwch, y mae’n anelu at hyrwyddo ffyrdd y gall y cyfryngau fod o fudd i gyfathrebu mewn byd sy’n newid yn gyson. 


Dydd Gwener y 25ain o Dachwedd 2022 – Diwrnod y Rhuban Gwyn 

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn, a adnabyddir hefyd fel y Diwrnod Rhyngwladol er Dileu Trais yn erbyn Menywod, yn ddiwrnod i gefnogi atal a dileu trais tuag at fenywod a merched.  Cenhadaeth y Rhuban Gwyn yw mynd i’r afael ag achosion gwreiddiol trais tuag at fenywod a merched drwy newid a herio agweddau ac ymddygiadau ynghylch sy’n parhau anghyfartaledd rhywedd. Am fwy o wybodaeth a’r ffyrdd y gallwch fod ynglŷn â hyn, ewch i’r wefan.