Canllawiau i leoliadau addysg a gofal plant ar gynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Cynllun Argyfwng a Chanllawiau Ymateb ar gyfer Lleoliadau Addysg a Gofal Plant.

Cynlluniwyd ei ganllawiau anstatudol i helpu pob lleoliad addysg a gofal plant i ymateb a nifer o wahanol fathau o argyfyngau

Nid yw’r canllawiau’n ymdrin â phob agwedd ar beth y dylai lleoliadau eu gwneud mewn perthynas â chynllunio brys, ond y mae’n amlinellu ac yn rhoi cyngor ar rai meysydd allweddol i’w hystyried.

Mae gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs amrediad eang o adnoddau templed i helpu gyda hyn, megis:

  • Gweithdrefn cau clwb dros dro (i rieni)
  • Gweithdrefn cau clwb dros dro (i staff)
  • Log Cadw mewn Cysylltiad (staff)
  • Ymgysylltu â theuluoedd pan fydd lleoliad yn cau
  • 10 ffordd o gefnogi llesiant plant
  • Gweithdrefnau brys
  • Canllaw Asesu Risg