Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Sefydliad Blue Spark

Mae’r uchod yn cefnogi addysg a datblygiad plant a phobl ifanc drwy roi grantiau i brosiectau addysgol, diwylliannol, rhai sy’n ymwneud â chwaraeon a phrosiectau eraill.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


Ariannu gan Sefydliad Lloyds Cymru a Lloegr

Gall elusennau arbenigol lleol sydd ag incwm o £25,000 i £500,000 wneud cais am grant anghyfyngedig o £75,000 dros dair blynedd. Ochr yn ochr â’r ariannu bydd yr elusennau yn cael cefnogaeth meithrin gallu ychwanegol ac adnoddau i’w helpu i ffynnu y tu hwnt i oes eu grant. Gallwch gael gwybod mwy a dechrau eich cais ar eu gwefan. Bydd y ceisiadau yn parhau ar agor tan 5yh ar Fawrth y  3ydd 2023. 


Yr Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post

Cronfa yw’r Ymddiriedolaleth Gymunedol Cod Post i gefnogi cyfundrefnau bach ac achosion da yng Nghymru. Gall y grantiau amrywio o £500 i  £20,000.

Gll sefydliadau wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau neu ar gyfer costau rhedeg cyffredinol, megis cyfleustodau a rhent.

Bydd yn agor ar Fawrth 1af am  10yb am 24 awr yn unig.

Cliciwch yma am wybodaeth bellach.