Arolwg Aelodau

Ein gweledigaeth  yw Cymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu. Ein cenhadaeth yw bod yn llais Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghymru, gan gefnogi hawl plant i chwarae a gofal plant o ansawdd sydd yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac sy’n ateb anghenion plant, eu teuluoedd a’u cymunedau. 

I’n helpu i adolygu, gwella a chynllunio ein gwasanaethau i’n haelodau, cymerwch 5 munud i gwblhau ein Harolwg Aelodau byr. 

Rhennir yr arolwg hwn yn 2 adran. Bydd Rhan 1: ‘Ynghylch eich Clwb Gofal Plant Allysgol a’ch Anghenion Cefnogi’ yn ein helpu i ddeall eich anghenion cefnogi wrth symud ymlaen, a bydd Rhan  2: ‘Bodlonrwydd Aelodau’ yn ein helpu i ddeall pa mor dda yr ydym wedi ateb eich anghenion dros y flwyddyn ddiwethaf, a sut y gallwn wella. 

Bydd ystadegau’n cael eu coladu o’ch ymateb er mwyn rhoi syniad i ni o’r darlun ar draws Cymru. Defnyddiwn y data yma i adrodd yn erbyn targedau i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol ac arianwyr. 

Diolch am eich amser. 

Arolwg