Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Wythnos Wyddonol Prydain Mawrth 10fed – 19eg  

Dathliad blynyddol deng-niwrnod o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), a gynhelir gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain (BSA). Mae’r wythnos yn ddigwyddiad sydd wedi ei hen sefydlu ar gyfer ysgolion, grwpiau cymunedol, llyfrgelloedd, orielau, busnesau a sefydliadau eraill. Bob blwyddyn maent yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid i lunio pedwar pecyn gweithgaredd, gan helpu i gefnogi addysgwyr, teuluoedd a grwpiau cymunedol y neu cynlluniau ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain. Mae pecynnau eleni o gwmpas y themam ‘Cysylltiadau’.   

LAWRLWYTHWCH Y PECYNNAU GWEITHGAREDD 


Wythnos Stryd Trin Tir – Mawrth 6ed – 12fed 2023 

Mae Wythnos Trin y Tir yn dathlu garddio cymunedol ar draws y DU. Yn yr argyfwng costau byw presennol, yn ogystal â phrinder nwyddau ffres megis tomatos, gall garddio fod yn ffordd gynaliadwy o gael gafael ar ffrwythau a llysiau ffres, yn ogystal â gwella llesiant meddyliol a chorfforol. Mae gerddi cymunedol o bob siâp a maint, o blotiau llysiau bychain i arddangosiadau ehangach o flodau. Profwyd bod garddio cymunedol o fudd i’n hiechyd meddyliol, gan ei fod yn ein cysylltu â natur a’r bobl o’n cwmpas.  


Diwrnod Dim Smygu 2023 – Dydd Mercher Mawrth 8fed 2023 

Mae’r Diwrnod Dim Smygu Cenedlaethol yn ddigwyddiad blynyddol a ddigwyddodd am y tro cyntaf ar Ddydd Mercher y Lludw 1984. Ei nod yw annog smygwyr i roi’r gorau i           sigarennau hyd yn oed am un diwrnod yn unig, ac i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch effeithiau negyddol ysmygu. Am help i roi’r gorau i smygu mae gan y GIG lawer o gefnogaeth a gwybodaeth i’w helpu i fod yn ddi-fwg ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf hefyd i fod