Dyddiau Ymwybyddiaeth

Eid al-Fitr Ebrill 21 neu 22 2023

Mae Eid al-Fitr yn nodi diwedd mis Ramadan. Eleni (2023) disgwylir dathlu Eid al-Fitr ar nos Wener Ebrill 21ain 2023. Mae’r union ddyddiad yn ôl yr adeg pan welir lleuad Shawwal (10fed mis y Calendr Islamaidd).

Eid Mubarak i bawb sy’n dathlu!


Diwrnod Rhyngwladol y Fam Ddaear Ebrill 22 2023

Dathlir Diwrnod y Fam Ddaear i atgoffa pob un ohonom fod y Ddaear a’i systemau eco yn rhoi inni fywyd a chynhaliaeth. Y mae’n rhoi cyfle i ddysgu am natur, ecosystemau a materion megis newid yn yr hinsawdd.