Ymchwil Llywodraeth Cymru ar effaith pandemig Covid-19 ar deuluoedd a phobl ifanc ar hyd a lled Cymru – allwch chi helpu?

Mae Miller Research wedi eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal y gwaith ymchwil hwn. Yn yr ail gam yma, hoffai Miller Research gynnal cyfres o grwpiau ffocws gydag ystod o bobl broffesiynol sy’n gweitho gyda phlant ifanc 0-7 blwydd oed a’u teuluoedd yng Nghymru – er enghraifft ymwelwyr iechyd, nyrsys meithrinfeydd, therapyddion lleferydd ac iaith, staff mewn lleoliadau gofal plant, a.y.b.

Nod yr ymchwil hwn yw casglu safbwyntiau cymaint o ymarferwyr â phosibl â phrofiad ‘llawr gwlad’ o’r system blynyddoedd cynnar  yng Nghymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o’n grwpiau ffocws sydd wedi’u trefnu, neu os ydych am wybodaeth bellach am y gwaith  ymchwil, cysylltwch â Tom Bajjada (Tom@miller-research.co.uk) neu Maya Richardson (maya@miller-research.co.uk).