Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Sefydliad Garfield Weston

Mae Sefydliad Garfield Weston yn un o’r ymddiriedolaethau dyfarnu grantiau mwyaf yn y DU. Maent yn darparu grantiau i Ysgolion ac Elusennau Cofrestredig y DU ar gyfer Costau Cyfalaf, Costau Refeniw/Craidd a Chostau Prosiect. Gwahoddir sefydliadau cymwys i wneud cais am brosiectau yn y meysydd canlynol:

  • Lles
  • Ieuenctid
  • Cymuned
  • Celfyddydau
  • Ffydd
  • Amgylchedd
  • Addysg
  • Iechyd
  • Amgueddfeydd
  • Treftadaeth

Mae’r Sefydliad yn rhoi tua £60 miliwn y flwyddyn, ac mae dwy lefel o gyllid i wneud cais amdani:

    • Grantiau rheolaidd hyd at £100,000
    • Grantiau mawr o £100,000 neu fwy (dylai trosiant eich sefydliad fod dros £1 miliwn i wneud cais am grantiau mawr)

Er bod modd gwneud cais am hyd at £100,000 ar y rhaglen grantiau arferol, mae’r Sefydliad yn rheolaidd yn rhoi grantiau o lai na £20,000. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, rhoddodd y Sefydliad sawl grant o £500, felly os oes gennych chi brosiect yn un o’u meysydd diddordeb, ond yn elusen fach, mae’n sicr yn werth gwneud cais.

Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer y rhaglen grant reolaidd unrhyw bryd drwy’r wefan, ond mae’n syniad da darllen y canllawiau grant yn drylwyr cyn dechrau eich cais. Unwaith y byddwch wedi gwneud eich cais, fel arfer cymer tua phedwar mis i dderbyn penderfyniad.


Â’r nosweithiau goleuach a’r dyddiau cynhesach yma o’r diwedd, beth am achub ar y cyfle i gael digwyddiad yn eich lleoliad naill ai ar gyfer y plant yn unig neu ddigwyddiad teuluol neu gymunedol. Gall y rhain fod yn ffordd wych o godi arian ar gyfer lleoliadau yn ogystal â hyrwyddo’r gwaith yr ydych yn ei wneud a phwysigrwydd chwarae.

  • Beth am gynllunio noson gysgu-draw ar ddiwedd y tymor?
  • Barbeciw hwyrol a digwyddiad bownsio?
  • Sioe dalent yr haf?
  • Noson tân gwyllt ac adrodd straeon…
  • Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd

Beth am ofyn i’r plant a’r staff beth yr hoffent ei wneud, a dyma gyngor da ar gyfer digwyddiadau tro cyntaf…cadwch nhw’n syml ac hawdd eu gwneud.

A pheidiwch ag anghofio, gallai lleoliadau sy’n elusennau cofrestredig gael unrhyw arian a godir wedi ei gyfateb gan leoedd gwaith y rhieni, os yw’r cynlluniau hyn ar gael – bob tro’n werth gofyn.


Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru

Grant wedi ei ariannu gan by y Loteri Genedlaethol yw Cronfa Loteri Genedlaethol Cymru; y mae’n cefnogi clybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol ar hyd a lled Cymru i wella hygyrchedd at weithgaredd corfforol. Mae’n cynnig grantiau o £300 i £50,000 i gefnogi prosiectau sy’n hybu cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesedd mewn chwaraeon.

Gall pob clwb chwaraeon neu sefydliad nid-er-elw yng Nghymru wneud cais, waeth beth fo’i faint neu’i leoliad, a chymryd bod gan eich clwb yr holl amodau a gofynion ariannu.

https://www.sport.wales/grants-and-funding/beactivewalesfund/