Nodwch y dyddiad – Y Gynhadledd a Seremoni Wobrwyo All-ysgol

Cynhelir ein Cynhadledd Gofal Plant All-ysgol Flynyddol ar-lein ar Ddydd Mercher, Mawrth 6ed 2024, 18:45-21:00.

Bydd y Gynhadledd yn dathlu ein Gweithwyr Chwarae, dysgwyr, gwirfoddolwyr a chlybiau. Byddwn yn cyhoeddi enillwyr ein 9 Gwobr Gofal Plant All-ysgol am 2023 ac yn dathlu’r dysgwyr a enillodd gymwysterau dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn hefyd yn croesawu siaradwyr gwadd a fydd yn ein hysbysu o ddiweddariadau a gwybodaeth bwysig.

Cadwch lygad ar ein negeseuon cyfrwng-cymdeithasol am fanylion pellach ar yr enwebiadau a sut y gallwch fod yn rhan o noson i’w chofio!!