Recriwtio i wella’ch tîm

Oes angen i chi recriwtio i’ch sefydliad?

Ydych chi’n gwybod bod gennym dudalen ddynodedig ar wefan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs lle gallwch bostio hysbysebion ar gyfer

• Staff Gwaith Chwarae
• Arweinwyr Chwarae
• Staff Gofal Plant
• Rheolwyr
• Gwirfoddolwyr
• Aelodau i’r pwyllgor
• Ymddiriedolwyr
• Cyfarwyddwyr

Llenwch y ffurflen ar ein gwefan a gallwn eich cefnogi trwy Dudalennau Cyfryngau Cymdeithasol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

• Facebook
• Instagram
• Tiktok

Mae hwn yn Wasanaeth Rhad ac Am Ddim i aelodau presennol a chodir ffi o £50 ar rai nad ydynt yn Aelodau.