Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Mawrth 16eg Diwrnod Mynediad i’r Anabl

Mae Diwrnod Mynediad i’r Anabl  yn digwydd bob dwy flynedd ac mae’n ymwneud â rhoi cynnig ar rywbeth newydd #YouAndSomewhereNew .

Yn 2015 dechreuodd Diwrnod Mynediad i’r Anabl fel diwrnod i ddathlu ffyrdd da o ddarparu  mynediad, a chreodd hyn gyfleoedd i bobl roi cynnig ar rywbeth newydd. Roedd y diwrnod yn ymwneud â thynnu sylw at y darpariaethau mynediad gwych sydd eisoes yn bodoli mewn mannau, megis teithiau cyffwrdd, perfformiadau hamddenol, profiadau synhwyraidd, mynedfeydd gwastad ac wrth gwrs, croeso cynnes!


20 Mawrth Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd

#DiwrnodRhyngwladolHapusrwydd

Os ydych yn hapus ac yn gwybod hynny, dathlwch hynny ar Ddiwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd ar Fawrth 20! Ar wahân i fod mewn cyflwr niwtral, hapus yw’r hyn y dylem fod ar y cyfan. Yn anffodus, mae emosiynau fel dicter a thristwch yn dod yn ffordd ddiofyn fwyfwy i lawer ohonom, felly dyma ddiwrnod i godi calon a gwerthfawrogi mewn bywyd y  pethau da – a’r goleuni wedi tywyllwch.


21 Mawrth Diwrnod Syndrom Down y Byd

Mae Diwrnod Sydrom Down y Byd (WDSD), yn ddiwrnod ymwybyddiaeth byd-eang sydd wedi’i arsylwi’n swyddogol gan y Cenhedloedd Unedig ers 2012.

Ar gyfer Diwrnod Syndrom Down y Byd 2024, rydyn ni’n galw ar bobl ledled y byd i Derfynu’r Stereoteipiau