Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Mis Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Straen

Mae gennym adnoddau gwych a all eich cefnogi chi a’ch tîm i sicrhau eich bod yn gofalu am eich lefelau lles a straen oherwydd heriau bywyd yn ogystal â gwaith.

  • Mae dechrau’r flwyddyn ariannol newydd yn amser da i ddechrau gyda chynllun ariannol clir, sy’n cefnogi sut rydych yn datblygu ansawdd ac yn eich galluogi i ddod yn gynaliadwy yn y flwyddyn i ddod.
  • Gadewch i ni eich cefnogi gyda’ch gwaith i helpu i leihau rhywfaint o straen. Drwy gymryd ychydig funudau i ddechrau eich Asesiad Gofal Plant All-Ysgol (AGPA) gall ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant, a ariennir drwy Gronfa Loteri Genedlaethol Cymunedau Gofal Plant Cysylltiedig, eich cynorthwyo â chynllun gweithredu cam-wrth-gam a fydd yn dadansoddi unrhyw dasgau gwella y gallech fod angen eu gwneud i ddatblygu neu ddiweddaru elfennau o’ch gwasanaeth.
  • Gallwn hefyd eich helpu i ddatblygu cynllun busnes clir neu strategaeth i sicrhau eich bod yn symud ymlaen gyda’ch busnes.

Gallwch gwblhau’r AGPA drwy eich Porth Clybiau unwaith y byddwch wedi adolygu eich aelodaeth gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.

Gallwch hefyd gael mynediad i’n hadnodd Camu Allan ar gyfer polisïau a gweithdrefnau sy’n cefnogi iechyd meddwl – Mynnwch gip ar ein templed o Bolisi Straen

Dyma AGPA 2.0, yr Asesiad Gofal Plant Allysgol sy’n gymorth i wella ansawdd


Sut i fod yn fwy meddylgar – Mis Ymwybyddiaeth o Straen

5 Cam at Lesiant

  • Cysylltwch
  • Byddwch yn Egnïol
  • Daliwch i ddysgu
  • Helpiwch eraill
  • Sylwch ar bethau

Plant yng Nghymru | Sut i fod yn fwy meddylgar – Mis Ymwybyddiaeth o Straen


Dathlwch Vaisakhi

Mae Vaisakhi, a ddathlir naill ai ar 13eg neu 14eg o Ebrill bob blwyddyn, yn ŵyl gynhaeaf Sikhaidd hynafol sy’n nodi dechrau blwyddyn newydd a thymor cynhaeaf newydd. Mae’n un o’r gwyliau mwyaf arwyddocaol yng nghalendr y Sikhiaid ac mae’n amser sydd wedi ei neilltuo ar gyfer ysbryd cymunedol a meddwl i’r dyfodol.

Mae pobl yn addurno eu cartrefi a’u mannau addoli â garlantau a blodau lliwgar traddodiadol ac yn gwisgo dillad llachar iawn. Rhan bwysicaf y dathliadau yn ystod yr ŵyl yw ymweld â’r Gurdwara, sef y man addoli arbennig.

Syniadau am weithgareddau

  1. Gwnewch a hedfanwch farcutiaid. Cliciwch yma am gyfarwyddiadau ynghylch Barcutiaid a Ailgylchwyd
  2. Dysgwch i ddawnsio rhai camau Bhangra, dawnsio gwerin traddodiadol o’r rhanbarth Punjab, sy’n gysylltiedig â’r cynhaeaf. Edrychwch ar youtube am ysbrydoliaeth Dance Steps For Beginners: Punjabi Bhangra Dance Steps (youtube.com)  ) [Cyrchwyd 24/01/24].
  3. Beth am ichi greu garlantau a blodau o liwiau llachar.