Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Sir Benfro: Cronfa Addysg Plwyf  Rudbaxton 

Agorodd y Gronfa a Ebrill 2ail â’r nod o wella addysg plant o dan 25 mlwydd oed.

Gall sefydliadau ddefnyddio grantiau:

  • Tuag at gostau rhedeg prosiect
  • Gweithiau cyfalaf bychain
  • I brynu cyfarpar a  defnyddiau
  • I gyfrannu tuag at gostau defnyddiau addysgol, gwibdeithiau a dyddiau allan

Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • menter ieuenctid  cymunedol
  • rhaglen addysg gymunedol
  • clybiau gwyliau
  • mynd allan am ddiwrnodau addysgol

Am fanylion llawn a’r meini prawf cliciwch yma(sefydliadcymunedolcymru.org.uk

https://cfiw.org.uk/26-cronfa-addysg-plwyf-rudbaxton/


Llenyddiaeth Cymru: Cronfa Ysbrydoli Cymunedau 

Mae Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru’n cyllido digwyddiadau llenyddol, yn cynnwys digwyddidau a gynhelir ewn clybiau ieuenctid a lleoliadau cymunedol megis clybiau all-ysgol. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol o hyd at 75% o’r ffioedd a’r treuliau a delir i ysgrifenwyr am ddigwyddiadau llenyddol megis sgyrsiau, darlithoedd, gweithdai ysgrifennu creadigol a mwy.

Cronfa Ysbrydoli Cymunedau – Llenyddiaeth Cymru