Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Diwrnod Iechyd Meddyliol y Byd – Hydref 10 2022  

Thema Diwrnod Iechyd Meddylion y Byd eleni yw ‘gwneud iechyd meddyliol a llesiant i bawb yn flaenoriaeth fyd-eang’.  Mae’r ymgyrch yn gofyn i chi ofalu amdanoch ‘eich hun’ pan ddaw hi’n fater o’ch iechyd meddyliol. Gallech wneud amser am ‘Awr Rym’ yn eich gweithle a chael ‘Cynulliad Mawr ar Iechyd Meddyliol’, i fyfyrio neu i feithrin tîm. Bydd 1 erson mewn 4 yn cael eu heffeithi gan broblem iechyd meddyliol ac mae gan     

Mental Health UK adnoddau a chanllawiau niferus i’ch helpu i wneud eich iechyd meddyliol yn flaenoriaeth. 


Diwrnod Cenedlaethol Dod Allan (NCOD) – Hydref 11 2022 

Dathlir Diwrnod Cenedlaethol Dod Allan yn flynyddol ar Hydref 11eg.  Y mae’n ddiwrnod ymwybyddiaeth LHDTQRhA+ a’u cymunedau i ‘ddod allan’. Un o’i gredoau sylfaenol yw bod homoffobia a chywilydd yn ffynnu pan fo pobl yn ddistaw, ac felly bod ‘dod allan’ yn weithred bwysig o hunan-gydnabyddiaeth ac actifiaeth. Mae Stonewall yn cynnig cefnogaeth a mwy o wybodaeth ynghylch materion LGBTQIA+ ac mae  ganddo fwy o wybodaeth ar NCOD a’r hyn y gellwch ei wneud i gefnogi’r gymuned hon.


   

Diwrnod Dowch a’ch Tedi i’r Gwaith/Ysgol  – Hydref 13 2022 

Mae Diwrnod ‘Dowch â’ch Tedi i’r  Gwaith/Ysgol’ yn ddiwrnod sydd wedi ei neilltuo i gwtsio gyda’ch tedi bêr yn y gwaith neu’r ysgol.  Er mai yn yr UD y dathlir y diwrnod cenedlaethol hwn yn bennaf, ry’n ni’n meddwl ei fod yn syniad gwych, gan ei fod yn atgoffa pobl nad oes unrhyw beth o’i le ar gael eich cysuro bob yn awr ac yn y man. Bydd hefyd yn goleuo’ch diwrnod yn y gwaith neu’r ysgol trwy gael help pawen eich hoff arth i’ch cysuro.