Newyddion cyffrous ar gyfer y Dydd Chwarae Cenedlaethol Dydd Mercher 2 Awst 2023!

Cynhelir y Dydd Chwarae bob blwyddyn ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst ac mae’n ymgyrch a gynhelir i ddathlu pwysigrwydd Chwarae ym mywydau plant. 

Nod thema eleni yw amlygu bod chwarae i bawb. Mae chwarae’n digwydd ym mhobman, bob dydd, ac mae’n gan bob plentyn a pherson ifanc hawl iddo. Mae Dydd Chwarae yn annog teuluoedd, cymunedau, a sefydliadau mawr a bach, i ystyried sut y gallant adeiladu gwell cyfleoedd i bob plentyn chwarae. 

Er mwyn helpu ein clybiau i ddathlu eleni mae gennym grantiau bach o hyd at £100 i gynnal eich digwyddiad Dydd Chwarae eich hun ar gyfer eich plant a’ch cymuned i ddangos sut y gall CHWARAE adeiladu gwell cyfleoedd i bawb! 

Rydyn ni’n galw am fwy o chwarae, chwarae gwell, bob dydd! 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â contact@clybiauplantcymru.org