Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Chwefror 20 2023 – Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol y Byd

Nod Diwrnod Cyfiawnder Cymdeithasol, a gydnabyddir gan y Cenhedloedd Unedig,  yw rhoi cyfle i feithrin deialog ac ymwybyddiaeth a chefnogi ymdrechion y gymuned ryngwladol i ddileu tlodi, hyrwyddo cyflogaeth, gwaith gweddus, tegwch rhwng y rhywiau a mynediad at les cymdeithasol a chyfiawnder i bawb.


Chwefror 21 2023 – Dydd Mawrth Ynyd/Dydd Mawrth Pancos/Crempog/Ffroes 2023

Dydd Mawrth Ynyd (a elwir yn Ddydd Mawrth  Pancos)  mewn rhai gwledydd yw’r diwrnod cyn Dydd Mercher y Lludw (diwrnod cyntaf y Grawys) a ddathlir mewn rhai gweldydd drwy fwyta pancos. Gwelwch rysáit yn dangos ffordd hawdd o wneud pancos yma.


Chwefror 21 2023 – Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith

Nod Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith yw hyrwyddo’r gwaith sy’n helpu gwarchod a chadw pob iaith. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth am ieithoedd ar draws y byd o rai sydd â miliynau o siaradwyr i ieithoedd lleiafrifol. Ei nod yw hyrwyddo dealltwriaeth ryngwladol drwy amlddiwylliannedd ac amlieithrwydd.