Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Rhaglen Grantiau Clybiau Brecwast

Mae Kellogg’s wedi ymuno â Forever Manchester i ddyfarnu grantiau o £1,000 i Glybiau Brecwast ysgolion, i’w helpu i ddarparu brecwast ar gyfer y plant sydd ei angen fwyaf.

I wneud cais am grant cliciwch yma .


UK Youth – cronfa costau byw

Rhaglen grantiau dair-blynedd anghyfyngedig yw hon, â’r nod o liniaru effaith ddinistriol tu hwnt gostau byw ar y sector ieuenctid. Gwybodaeth bellach i’w gweld yma.


Dŵr Cymru/Welsh Water

Mae’r  Gronfa Gymunedol yn gyfle i gymunedau roi hwb i[w hymrechion i godi arian i achosion da y neu hardal leol. Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae gwaith o’r fath yn digwydd – ac yn codi arian i brosiectau er lles y gymuned – gallech gael eich ariannu am swm hyd at £1,000 gan Ddŵr Cymru.

Cliciwch yma for further information