Dyddiau Ymwybyddiaeth

Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd (Saesneg yn unig) (27 Mawrth – 02 Ebrill)

Gall unigolion ag awtistiaeth ddod ag amrywiaeth o fanteision i’r gweithle. Mae’r rhain yn cynnwys mwy o greadigrwydd a lefelau gwell o ddatrys problemau.

Anogwch eich gweithle i gefnogi Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd 2023 (Saesneg yn unig). Lliw yw’r thema eleni. Mae yna hefyd Sialens Lliw Sbectrwm (Saesneg yn unig) rithwir, sy’n cynnwys syniadau ar gyfer codi arian.

Ymunwch â’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (Saesneg yn unig) i gefnogi’r 700,000 o bobl awtistig yn y DU.


Mis Ymwybydiaeth o Straen (Ebrill 01 – Ebrill 30)

Mae Ebrill yn fis Ymwybyddiaeth o Straen. Mae straen ac iechyd medyliol gwael yn un o’r heriau mwyaf i iechyd cyhoeddus. Mae Mis Ymwybydiaeth o Straen wedi ei gynnal bob Ebrill ers 1992 ac  yn anelu at gynyddu ymwybydiaeth o achosion a’r atebion i straen, gan annog sgyrsiau agored am effeithiau straen. Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth ar sut i drechu straen.


Dydd Gwisgo Het (Mawrth 31)

Y Dyd Gwisgo Het yma fydd y dydd gwisgo het  cyntaf i’w ddathlu yn y flwyddyn. Mae’r digwydiadau codi arian hyn er budd Mis Ymwybyddiaeth o Diwmor yr Ymennydd ac ar gyfer ymchwilio ymhellach i  driniaethau a therapïau  tiwmor yr ymennydd. Beth am gyfrannu eleni? Ewch i’r wefan i weld ym mha ffyrdd y gallwch fod yn rhan o hyn.