Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Mehefin 14, 2023 – Diwrnod Byd-eang Rhoddwyr Gwaed 

Mae dathliadau Diwrnod Byd-eang Rhoddwyr Gwaed yn digwydd ar draws y byd i ddiolch i’r holl roddwyr gwirfoddol, nad ydynt yn derbyn tâl am eu rhodd. Y mae hefyd yn gyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi gwaed a faint o fywydau sy’n cael eu hachub yn ddyddiol o ganlyniad i roi gwaed.


Bydd yn Sul y Tadau ar Ddydd Sul Mehefin 18fed. Y mae’n ddydd i anrhydeddu tadau personol a eraill sydd hefyd yn dadau, megis teidiau a tadau-yng-nghyfraith. Mae nifer o bobl yn gwneud ymdrech arbennig i ymweld â’u tadau neu anfon cerdyn neu roddion atynt.


Wythnos Genedlaethol y Picnic Mehefin 17eg – 25ain 2023

Bydd Wythnos Genedlaethol y Picnic yn digwydd y Mehefin hwn ar draws y DU, felly dowch â’ch blancedi a’ch basgedi allan o’r cypyrddau ac ewch allan i’r awyr agored am bicnic hen-ffasiwn, hoff.