Adnoddau newydd gan Ofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi’r fframwaith sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y blyyddoedd cynnar a gofal plant

Rydym yn lansio adnoddau newydd i gefnogi fframwaith sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant

Ymunwch â ni yn ein digwyddiad lansio, lle byddwn ni’n dangos dau adnodd newydd rydyn ni wedi’u datblygu i helpu rheolwyr ac arweinwyr i gefnogi gweithwyr gyda’r AWIF ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Yr adnoddau yw:

  • canllaw i reolwyr ac arweinwyr sy’n cefnogi gweithwyr i gwblhau gweithlyfrau AWIF
  • amrywiaeth o adnoddau tystiolaeth, i ddangos gwahanol sefyllfaoedd lle gallai gweithwyr gasglu tystiolaeth i gwblhau’r AWIF.

Mae’r digwyddiad ar-lein hwn ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr yn gyfle i ddarganfod mwy am sut y gellir defnyddio’r adnoddau yn ymarferol.

Rydym yn cynnal tri sesiwn ar Zoom:

  • Dydd Llun, 19 Mehefin, 10yb i 11yb
  • Dydd Mawrth, 20 Mehefin, 2yh tan 3yh
  • Dydd Mercher, 21 Mehefin, 5yh tan 6yh.

Dim ond un sesiwn sydd angen i chi ei fynychu.

Cofrestrwch yn awr Adnoddau newydd i gefnogi’r Fframwaith… | Gofal Cymdeithasol Cymru