Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Grant Cryfhau Cymunedau Henry Smith

Nod rhaglen grant Cryfhau Cymunedau yw cefnogi sefydliadau bach, llawr gwlad sydd wedi’u gwreiddio yn y gymuned ac sy’n gweithio yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU. Drwy’r rhaglen grant hon rydym am wneud yn siŵr bod ein cyllid yn cyrraedd sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau sydd ar gael yn eang i’r gymuned gyfan,  yn ymateb i anghenion y bobl sy’n byw ynddi ac yn mynd i’r afael â hwy.

I wybod mwy


Rhaglen Grantiau Cyfalaf cynnig Gofal Plant Sir y Fflint 2023-24

Grant Cyfalaf Bach

Dyddiad cau: Gorffennaf 9 2023

Rhaid i’r Gwaith cyfalaf a’r pryniannau fod wedi’u cwblhau erbyn Medi 10 2023

Mae pob lleoliad cofrestredig AGC sy’n cynnig Cynnig Gofal Plant neu Dechrau’n Deg neu Ddysgu Sylfaen ar gyfer plant 3 a 4 oed yn gymwys i wneud cais. Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer y rhai sydd yn y broses o wneud cais i gofrestru; bydd angen i’r Awdurdod Lleol fod yn fodlon bod y darparwr gofal plant yn wirioneddol yn y broses o wneud y cais hwnnw i AGC.

Am fwy o wybodaeth cysyltwch â: datblygugofalplant@flintshire.gov.uk


Mae Cyllido Cymru yn blatfform chwilio newydd am gylllid ar gyfer y sector gwirfoddol e.e. grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol ac elusennau. Mae’n beiriant chwilio am ddim, sydd wedi’i greu gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sy’n rhwydwaith o gynghorau gwirfoddol lleol. Mae Cyllido Cymru’n cael ei reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Gallwch chwilio am gannoedd o ffynhonnau cyllid, o gyfleoedd am grantiau bychain i brosiectau cyfalaf llawer mwy. I ddechrau, bydd angen i chi gofrestru ar wefan Cyllido Cymru Cyllido Cymru