Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Wythnos Llesiant y  Byd

Mehefin 26 – Gorffennaf 2

Yn awr yn ei bumed flwyddyn, mae Wythnos Llesiant y Byd yn dychwelyd ym Mehefin 2023 i roi’r cyfle i gyfranogwyr ar hyd a lled y byd i ddathlu’r nifer o agweddau sydd i lesiant: o waith llawn ystyr a phwrpas i ddiogelwch ariannol, iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol, gwydnwch cymdeithasol ac arweiniad corfforaethol a dinesig empathetig, perthnasoedd mewn cymunedau a gofal dros yr amgylchedd. Ni fu llesiant erioed mor bwysig i’n bywydau a’n bywoliaethau.


Bydd Wythnos Celf Plant 2023 yn digwydd ar draws 3 wythnos o Fehefin 29ain i Orffennaf 19eg.  Bydd digwyddiadau creadigol yn digwydd ar draws y wlad, ar-lein ac mewn ysgolion.

Dowch yn rhan o hyn yma.


Mehefin 30, 2023 – Diwrnod Byd-eang y Cyfryngau Cymdeithasol

Go brin fod angen inni gael anogaeth i ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol, ond mae’r diwrnod hwn yn cydnabod ei effaith ar sut rydym yn cyfathrebu. Ar Fehefin 30ain 2010, lansiodd, Mashable y Diwrnod y  Cyfryngau Cymdeithasol fel ffordd o gydnabod a dathlu effaith y cyfryngau cymdeithasol ar gyfathrebu byd-eang.