Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Sefydliad y Teulu Ashley

Lle’r ydym yn canolbwyntio ein cefnogaeth.

Mae’r ymddiriedolwyr yn awyddus i ariannu prosiectau sydd yn gydnaws â’r gwerthoedd hyn. Mae ein ffocws ar gefnogi pum brif thema:

  • Cymru
  • Ardaloedd gwledig
  • Y Celfyddydau
  • Y Gymuned
  • Elusennau bychain

Er nad oes gennym derfyn wedi’i bennu o ran y swm y gellir ei ddyfarnu, rydym yn ffafrio ceisiadau am symiau is na £10,000. Dyfernir cyllid ar sail cyd-destun y prosiect a gwyddom y gall dyfarniadau llai o £500 wneud gwahaniaeth mawr i rai derbynwyr.

Ein polisi yw ffafrio argymhellion parthed refeniw dros geisiadau am gyfalaf. Fel arfer dyfernir cyllid i brosiectau untro. Fe fyddwn, fodd bynnag, yn ystyried ariannu dros nifer o flynyddoedd (hyd at dair) os bydd ei angen ar y prosiect – yn amodol ar fonitro ac adolygu boddhaol.

What we fund — The Ashley Family Foundation


Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs:  Grant Dydd Chwarae

Mae ariannu yn awr ar gael gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs o’r sefydliad, Moondance Foundation ar gyfer Awst 2023.  Gofynnir ichi drafod eich cais gyda’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant, a fydd hefyd yn gorfod llofnodi’ch cais.

Bydd y terfynau amser ar gyfer cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd y mis ar sail dreigl hyd nes y bo’r arian wedi ei ddyrannu.

Amcanion y Grant Dydd Chwarae  

Y Dydd Chwarae yw  diwrnod cenedlaethol chwarae, a ddathlir bob blwyddyn ar hyd a lled y DU ar y  Dydd Mercher cyntaf ym mis Awst. Caiff Dydd Chwarae 2023 ei ddathlu ar Ddydd Mercher, Awst 2. Y thema eleni yw:

Chwarae am y nesaf peth ddim – troi pob dydd yn antur


Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Rydym yn dyfarnu arian sydd wedi ei godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i ariannu syniadau ardderchog a all helpu cymunedau i ffynnu.

Gall grwpiau wneud cais i ni am gyllid o lai na £10,000, neu dros £10,000, yn ddibynnol ar beth y maen nhw am ei wneud.

Rydym yn ariannu prosiectau sy’n cefnogi pobl a chymunedau ar draws y DU i ffynnu.

Rydym yn ariannu llawer o wahanol weithgareddau drwy raglenni ariannu amrywiol. Cymerwch olwg agosach ar y ddolen isod:

Yn meddwl am wneud cais am ariannu? | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol  (tnlcommunityfund.org.uk)