29.09.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Cychwyniadau cadarnach Tesco
Mae Tesco Stronger Starts yn cefnogi miloedd o brosiectau ac achosion da cymunedau lleol ar hyd a lled y DU.
Mae’r cynllun ar agor i bob ysgol, elusen gofrestredig a sefydliadau nid-er-elw, a rhoddir y flaenoriaeth i brosiectau sy’n darparu bwyd a chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc.
Gallai’r canlynol fod yn enghreifftiau o geisiadau cymwys â’u ffocws ar sicrhau bwyd digonol:
- Ysgol sy’n darparu bwyd i ddisgyblion ar gyfer clybiau brecwast neu fyrbrydau trwy gydol y dydd.
- Ysgol sydd eisiau prynu offer ar gyfer gweithgareddau awyr agored neu dan do.
- Ysgol sydd eisiau datblygu ardal tyfu bwyd.
- Ysgol sy’n cefnogi clwb ôl-ysgol.
- Sefydliad gwirfoddol sy’n gweithio gyda theuluoedd i redeg banc bwyd.
- Sefydliad sy’n mynd i’r afael â gwyliau llwglyd.
- Prosiect bwyta’n iach sy’n cefnogi teuluoedd i goginio prydau iach ar gyllideb.
- Grŵp Brownis neu Sgowtiaid ag angen cyllid ar gyfer offer neu weithgareddau chwarae newydd.