Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Mis Hanes Pobl Dduon – Hyd 1af i Hyd 31ain  2023

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn fis Hydref a neulltuir ar ei  hyd, ar gyfer addysgu am hanes pobl Dduon a dathlu eu cyfraniadau i hanes


Mis Ymwybyddiaeth o ADHD – Hyd 1af – Hyd 31ain 2023

Mae Mis Ymwybyddiaeth o ADHD (Anhwylder Diffyg Sylw a Gorfywiogrwydd)  yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ym mis Hydref i godi ymwybyddiaeth am Anhwylder Diffyg Sylw/Gorfywiogrwydd (ADHD). Nod yr ymgyrch mis yw addysgu’r cyhoedd, lleihau stigma, a chefnogi unigolion a theuluoedd y mae ADHD yn cael effaith arnynt. Y mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd diagnosis cynnar, triniaeth effeithiol, a deall yr heriau sy’n wynebu pobl ag ADHD.


Calan Gaeaf – Hydref 31ain

Dathliad byd-eang o bob peth arswydus a brawychus. Credir bod gwreiddiau Calan Gaeaf yng ngŵyl baganaidd Samhain a oedd yn fath o ŵyl gynaeafu. Ymhlith y dathliadau ceir ‘cast ta ceiniog’, gwisgo i fyny ac addurniadau.