Copy of Funding Opportunties

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Rhaglen Awyr Fawr

Mae BBC Plant Mewn Angen yma i sicrhau bod pob plentyn yn cael y plentyndod y mae’n ei haeddu a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu.

Mae’r gronfa, A Million & Me, yn cefnogi plant 8-13 oed. Mae’n canolbwyntio ar eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl.

Nod y gronfa hon yw darparu cymorth yn gynnar, cyn i  broblemau iechyd meddwl ymsefydlu.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar effaith ynysu daearyddol ar les emosiynol ac iechyd meddwl plant.

Bydd y rhaglen yn dyfarnu grantiau o hyd at £5,000 i ariannu:

  • Plant a phobl ifanc 8-13 oed
  • Plant a phobl ifanc o ardaloedd anghysbell
  • Gweithio i gefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen mwy ac i weld a allech fod yn gymwys! Rhaglen Awyr Fawr – BBC Plant mewn Angen