Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Wythnos y Gwyliad-Adar Mawr     

Beth yw’r Gwyliad-Adar-Gardd Mawr?

Y Gwyliad-Adar-Gardd Mawr yw’r  arolwg bywyd gwyllt gerddi mwyaf yn y byd. Bob blwyddyn, mae cannoedd o filoedd o bobl sydd, fel chi, yn caru natur yn cymryd rhan, gan helpu i adeiladu darlun o sut mae adar yr ardd yn dod yn eu blaenau.

Ledled y DU, cymerodd dros hanner miliwn o bobl ran yng  Ngwyliad Adar-Gardd Mawr 2023,    gan gyfrif cymaint â 9.1 miliwn o adar! Aderyn y to enillodd y safle uchaf, ond mae nifer yr adar trydarol hyn wedi gostwng 57% o’i gymharu â’r Gwyliad Adar cyntaf ym 1979. Yn wir, rydym wedi colli 38 miliwn o adar o awyr y DU yn y 60 mlynedd diwethaf. Ag adar yn wynebu cymaint o heriau, mae’n bwysicach nag erioed cymryd rhan yn y Gwyliad Adar. Bydd pob aderyn y byddwch chi’n ei gyfrif – neu ddim yn ei gyfrif – yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar sut mae adar yr ardd yn dod yn eu blaenau.

Big Garden Birdwatch (rspb.org.uk)