Trechu Feirysau’r Gaeaf

Y gaeaf hwn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymgyrch ‘Trechu Feirysau’r Gaeaf’, sy’n annog pobl yng Nghymru i gymryd camau syml i atal lledaeniad salwch cyffredin y tymor hwn.

Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio’n benodol ar annog pobl i olchi eu dwylo am o leiaf 30 eiliad ar adegau allweddol yn ystod y dydd.

Mae hefyd yn ymdrin ag ymddygiadau ataliol ehangach sy’n bwysig i atal lledaeniad salwch:

  • Ymarfer hylendid da: gorchuddio peswch a thisian, glanhau arwynebau’n rheolaidd ac osgoi cyffwrdd â’r wyneb
  • Gadael awyr iach i mewn pan fo modd
  • Aros adref pan yn sâl

Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr eich cymorth i rannu’r negeseuon hyn yn eich lleoliad.

Mae ystod o asedau ar gael y gellir eu rhannu trwy gyfryngau cymdeithasol, i annog y dechneg gywir o olchi dwylo, yn ogystal ag ymddygiadau ataliol eraill. Llyfrgell Asedau Iechyd Cyhoeddus Cymru (brandkitapp.com)

Y mae hefyd boster gwybodlun ar olchi dwylo ar gael i’w lawrlwytho. Byddai’n wych pe gellir arddangos y rhain o mewn ardaloedd allweddol mewn lleoliadau, yn ogystal â’u dosbarthu.

Jpeg: Poster gwybodlun dwyieithog ar olchi dwylo jpeg

PDF: Poster gwybodlun dwyieithog ar olchi dwylo

Mae mwy o wybodaeth i’w chael ar dudalennau’r ymgyrch yma:

https://icc.gig.cymru/pynciau/curo-feirysaur-gaeaf/