12.01.2024 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Ymddiriedolaeth ‘Ashworth Charitable Trust’
Elusen fechan sy’n rhoi grantiau yw’r Ashworth Charitable Trust. Fe’i crëwyd yn bennaf i gefnogi achosion dyngarol sy’n gweithredu’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, o’i gyferbynnu â phrosiectau anifeiliaid neu iwtilitaraidd. Mae’r Ymddiriedolaeth gan fwyaf â’i bryd ar ariannu prosiectau ac nid cyllid craidd.
Mae’n well gan yr Ymddiriedolaeth helpu i ariannu prosiectau a gweithgareddau dyngarol sy’n rhannu’r weledigaeth hon ac sydd ag unrhyw un o’r nodweddion hyn:
- Bod y prosiect neu’r gweithgaredd wedi’i gychwyn gan bobl sy’n byw ar lawr gwlad sydd wedi’u grymuso i ddod o hyd i atebion i’w problemau eu hunain;
- Bod gan y prosiect gyfres gymharol syml a chlir o amcanion a chamau gweithredu sy’n hybu gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth;
- Bod y prosiect yn datblygu gallu unigolion, eu cymunedau neu eu sefydliadau i’w helpu i helpu eu hunain;
- Bod y prosiect yn gwella dysgu unigolion, eu cymunedau neu eu sefydliadau;
- Bod ‘buddiolwyr’ y prosiect yn cymryd rhan yn y gwaith o reoli a rhedeg y prosiect neu weithgaredd; a
- Bod ‘buddiolwyr’ y prosiect wedi dioddef, neu yn dioddef, o anghyfiawnder, tlodi neu amgylchiadau personol sy’n anodd i’r unigolyn eu goresgyn heb gymorth.
Sefydliad Y John Ellerman Foundation
Ein nod yw helpu i greu cymdeithas gynhwysol lle gall pawb ffynnu, drwy gefnogi sefydliadau sy’n gweithio i greu newidiadau cadarnhaol ar lefel systemau cyfan er budd y gymdeithas ehangach.
Credwn mai pobl sy’n gweithio gyda’i gilydd sy’n creu newid. Mae gennym ddiddordeb mewn sefydliadau sydd â hanes o fynd i’r afael â rhaniadau ac annhegwch, ac sy’n dod ag unigolion, sefydliadau cymunedol ac eraill – gan gynnwys cyrff cenedlaethol – ynghyd i ddylanwadu ar y llywodraeth a’r asiantaethau sy’n llywio ein bywydau.
Yr hyn yr ydym yn ei ariannu
Rydym am gefnogi’r sawl sydd ag uchelgais i gyflawni newid cadarnhaol ar raddfa fawr gan hefyd greu buddion i’r bobl dan sylw. Felly byddwn yn canolbwyntio ein cyllido ar geisio sicrhau cymdeithas lewyrchus ar sail gwaith sy’n gwneud y ddau beth canlynol:
- Mynd ati i gynnwys y sawl sydd â phrofiad personol o’r mater yr aed i’r afael ag ef – gan adlewyrchu ein cred mai’r rhai sydd â phrofiad personol uniongyrchol o fater(ion) sy’n eu deall orau, ac y dylent gael y modd a’r gefnogaeth i ddefnyddio eu harbenigedd, eu dealltwriaeth a’u dirnadaeth i hyrwyddo gwaith y sefydliad. Rydym am iddynt allu gwneud hyn mewn amgylchedd cefnogol sy’n ymroddedig i’w llwyddiant. Nid ydym yn disgwyl cael datgeliadau o brofiad personol unigolion wedi’u cynnwys mewn ceisiadau, onid yw’r wybodaeth hon eisoes yn hysbys yn gyhoeddus neu ar gael. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd arbenigedd a dirnadaeth y rhai sy’n gweithio ochr yn ochr ag unigolion a chymunedau sydd â phrofiad personol.
a
- Gwella systemau trwy bolisi, eiriolaeth ac ymgyrchu – trwy ddylanwadu ar newid a chynnydd ar y materion y mae sefydliad yn ceisio mynd i’r afael â hwy a sicrhau’r hawliau sy’n ddyledus i’r unigolion y mae’n eu cefnogi. Gallai hyn gynnwys: casglu a defnyddio tystiolaeth; cysylltu pobl a’r sefydliad; creu cyfleoedd ar gyfer cyswllt, deialog ac ymgysylltu ystyrlon; neu ddylunio a dychmygu strategaethau a thactegau effeithiol ar gyfer dylanwadu; a defnyddio’r dulliau hyn i eirioli neu ymgyrchu dros wella polisïau, arferion a systemau.
Disgwyliwn i amrywiaeth o unigolion a chymunedau sy’n profi ystod o anghydraddoldebau a gwahaniaethu elwa ar ein hariannu. O ystyried y cynfas eang hwn, rydym yn blaenoriaethu gwaith sy’n mynd i’r afael â’r rhwystrau mwyaf a grëir gan raniadau ac annhegwch. Rydym yn ceisio ariannu gwaith sy’n canolbwyntio’n benodol ar y budd ehangaf posibl ar draws systemau gwahanol, yn hytrach na chyflenwi gwasanaeth.
Cronfa Edge
Dechreuodd Cronfa Edge o’r gwaelod i fyny yn 2012 fel cronfa grantiau cyfranogol. Roedd gan y bobl a’i sefydlodd brofiad fel ymgyrchwyr neu gyllidwyr, a llawer fel y ddau. Pe bai trefniadaeth gymunedol a datblygu cymunedol yn gallu cynnwys y bobl yr effeithir arnynt gan benderfyniadau, yna pam na allai cyllid ddigwydd yn yr un ffordd?
Mae’r system gyfalafol a’r diwylliant o’i chwmpas yn creu enillwyr a chollwyr. Mae’n bryd cael lleisiau’r rhai sydd wedi cael eu gormesu a’u gwthio i’r cyrion. Os byddwn yn parhau i adael penderfyniadau am gyllid i’r rhai sy’n dal y cyfoeth a’r pŵer, ni fydd newid go iawn i’r system yn digwydd.