Diwrnodau Ymwybyddiaeth

As Er mai Diwrnod Star Wars fydd Mai’r 4ydd am byth, gall dyddiau ac wythnosau ymwybyddiaeth ein helpu i gael deialog â phlant a theuluoedd er mwyn edrych ar wahanol ffyrdd o gefnogi teuluoedd.

Mae’r mis yma’n cychwyn â:

  Mis Cenedlaethol Cerdded 

Mae mynd allan i gerdded yn wych i’ch iechyd corfforol a meddyliol, ond hefyd yn ffordd ardderchog o godi arian i Sefydliad y Galon ym Mhrydain.


Mis Cenedlaethol Rhannu Stori 

Mae storïau’n hynod rymus, a thema eleni ar gyfer Mis Cenedlaethol Rhannu Stori yw “hwylio bant mewn stori”. Boed trwy ddarllen o lyfr, creu eich stori eich hunain neu ddefnyddio delweddau, pypedau neu brops, mae gan storïau ffordd o gysylltu pobl â’i gilydd a bywhau dychymyg a hud.


Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod 

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod eleni bron yma! O Fai 6ed – 12fed, i godi ymwybyddiaeth a herio rhagdybiaethau o golli clyw a byddardod ar draws y DU.

Mae gan DAW ddefnyddiau a fyddai’n tynnu sylw, y gallwch eu lawrlwytho a’u defnyddio os hoffech gynnal eich digwyddiad DAW eich hun neu godi ymwybyddiaeth yn eich swyddfa, ysgol neu gymuned.

Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod I  Cymdeithas Genedlaethol Plant Fyddar (ndcs.org.uk)