10.01.2024 |
Cyfeiriadur Hyfforddiant Newydd yn awr ar gael
Pan ddaeth hi’n fater o lunio Cyfeiriadur Hyfforddiant newydd, roeddem am wneud pethau ychydig yn wahanol.
Daethom at ein gilydd fel tîm i ddweud mwy â llai. Gwyddom pa mor brysur yw’r sector, felly roeddem am ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i ddewis yr hyfforddiant cywir.
Pan fyddwch yn agor y Cyfeiriadur Hyfforddiant fe welwch fod y wybodaeth wedi ei gosod mewn ardaloedd allweddol fel y gallwch yn hawdd weld natur y cwrs ac a yw’n briodol i chi a’ch tîm.
Gan wella ar yr hen Gyferiadur Hyfforddiant y tro hwn, rydym wedi cynnwys cost y cwrs, felly gellir cynllunio cyrsiau’n hawdd o fewn y cyllidebau sydd ar gael.
Rydym yn falch iawn o’n Cyfeiriadur Hyfforddiant newydd ac yn gobeithio eich bod chi’n ei hoffi hefyd.