19.04.2024 |
Diweddariad Pwysig gan Lywodraeth Cymru ym y Canllawiau Arferion Gorau – Bwyd a Maeth i Leoliadau Gofal Plant
Nid yw’r “Canllawiau arferion gorau – bwyd a maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant” y cyfeirir ato yn Safon 12 y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (NMS) ar gael dros dro ar wefan Llywodraeth Cymru tra bod y cyngor ar faeth a diogelwch bwyd yn cael ei ddiweddaru gennym yn unol â’r argymhellion cyfredol.
Dylid diystyru unrhyw fersiynau papur neu fersiynau PDF sydd wedi’u cadw o’r canllawiau yn ogystal â bwydlenni/ryseitiau cysylltiedig gan nad yw pob un ohonynt yn bodloni’r argymhellion maethol cyfredol. Mae nifer bach ohonynt hefyd yn cynnwys bwydydd y mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori a allai achosi perygl o dagu i blant, ee popgorn.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am beryglon tagu, gan gynnwys rhestr o fwydydd i’w hosgoi, edrychwch ar bosteri’r Asiantaeth Safonau Bwyd sydd i’w cael drwy’r ddolen hon: Cyngor diogelwch bwyd ar beryglon tagu mewn lleoliadau – Y Blynyddoedd Sylfaen
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch bwyd, defnyddiwch y ddolen hon i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Bwyd mwy diogel, busnes gwell | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)
Bydd y canllawiau diwygiedig yn cael eu cylchredeg maes o law.
Unrhyw gwestiynau, ebostiwch sarah.francis1@gov.wales