Clybiau Gwyliau Caerffili – Peidiwch â methu’r cyfle hwn

Mae Prosiect Play Inc, a ariennir gan Grant Gwyliau Playworks Llywodraeth Cymru, yn mynd i’r afael â diffyg bwyd yn ystod y gwyliau trwy gynnig mynediad i gyfleoedd chwarae yn ystod y gwyliau i deuluoedd bregus ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ar gyfer eu plant oed ysgol gynradd. Mae’r sesiynau hyn wedi’u hariannu’n llawn, gan leddfu unrhyw faich ariannol ar deuluoedd.

Meini Prawf Cymhwysedd

Mae plant oed ysgol gynradd, a nodir gan Dîm Cefnogi Teuluoedd y Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys y rhai sydd wedi cofrestru mewn Canolfannau Adnoddau Arbenigol, yn gymwys ar gyfer y rhaglen.

Gwasanaethau a Ddarperir

Mae plant cymwys yn cael dau sesiwn 6-awr yr wythnos yn ystod gwyliau ysgol, a lleoliadau gofal plant yn cael £30 y sesiwn fesul plentyn, ynghyd â £2.50 am ginio.

Dod yn Ddarparwr Play Inc

Rhaid i ddarparwyr gofal plant sydd â diddordeb mewn cymryd rhan fod wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru a gallu gweithredu yn ystod gwyliau ysgol. Byddant yn derbyn hyfforddiant i wella eu darpariaeth, gan ganolbwyntio ar gynhwysedd ac asesu risg.

Rhaid i ddarparwyr fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Bod â lleoedd gwag ar gael yn ystod gwyliau’r ysgol.
  • Eu bod yn cynnig lleoli plant 5-11 blwydd oed.
  • Yn gallu cefnogi plant ag anghenion ychwanegol/sy’n dod i’r amlwg.

Y Broses Ymgeisio

Dylai darparwyr â diddordeb gwblhau Ffurflen Mynegi Diddordeb erbyn Ebrill 30, 2024.

(*Nid oes raid i leoliadau sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer  Play Inc gwblhau’r ffuflen eto, ond byddwn yn cysylltu â chi i wirio a ydych yn gallu bodloni’r meini prawf.)

Unwaith y byddant wedi’u   cymeradwyo, ychwanegir y darparwyr i’r rhestr o ddarparwyr a gymeradwyir gan Play Inc. Bydd y  Tîm Cefnogi Teuluoedd yn nodi palnt cymwys ac yn rhoi cod cymhwystra i rieni/gofalwyr. Bydd y rhieni/gofalwyr yna’n   dewis darparwr o’r rhestr a gymeradwyir ac yn trefnu’r lleoli. Bydd y darparwyr yn llenwi Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol  (yr ICP), yn cynnwys y cod cymhwystra. Ar dderbyn cymeradwyaeth, bydd y darparwr a’r rhieni/gofalwyr yn derbyn cadranhad o’r lleoli a’r ariannu.

Y Broses Dalu

I dderbyn y taliad rhaid i ddarparwyr gyflwyno cofrestrau presenoldeb ar ddiwedd yr wythnos wyliau.

Bwletin Arbennig i Ddarparwyr Gofal Plant  – Prosiect Play Inc (govdelivery.com)