Camau: Cwrs Iaith Gymraeg sydd wedi ei Gyllido’n Llawn

Mae cwrs Camau yn gwrs Hunan-Astudio Ar-lein ar lefel Mynediad. Mae’n addas ar gyfer dechreuwyr a’r rhai sydd â sgiliau Cymraeg sylfaenol ar gyfer hwb i’w hyder a sesiwn adnewyddu. .

Mae’r cwrs yn cynnwys y canlynol ac mae wedi’i gylllido’n llawn:

  • Dysgu Cymraeg i’w defnyddio gyda phlant mewn lleoliadau;
  • Ynganu’r wyddor, lliwiau, dyddiau’r wythnos a rhifo;
  • Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiaid;
  • Dysgu patrymau i ofyn ac ateb cwestiynau;
  • Dysgu’r amser;
  • Siaradh amdanoch chi’ch hun;
  • Siarad am gynlluniau ar gyfer y dyfodol;
  • Dweud beth mae pobl wedi bod / yn ei wneud;
  • Dysgu gorchmynion
  • Adnoddau argraffadwy am ddim i’w defnyddio yn eich lleoliadau.

Gan ei fod yn gwrs hunan-astudio gallwch gwblhau’r unedau ar amser ac mewn lle sy’n gyfleus i chi. Gallwch gael mynediad at y cwrs mor aml ag y dymunwch, fodd bynnag, rydym yn annog pob dysgwr i gyflawni tua un uned yr wythnos (sydd ond yn cymryd hyd at awr!) er mwyn cymryd tua 10 wythnos i gwblhau Mynediad Rhan 1.

Pan fyddwch yn cwblhau cwrs Mynediad 1, byddwch yn derbyn tystysgrif ac yn gallu symud ymlaen i’r Mynediad Rhan 2 a 3 i ennill y cymhwyster Mynediad i’r Gymraeg llawn – Mae hyn yn wych ar gyfer eich DPP a ffeiliau staff!

https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cwrs/45011986-aacb-ec11-997e-14cb653e1817/