06.10.2023 |
Clywch gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol wedi’u Hadnwyddu dysgu cam-wrth-gam
Diolch i Ceri Herbert, Uwch Reolwr Tîm Gofal Plant a Chwarae Arolygiaeth Gofal Cymru, a gyflwynodd ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol wedi’u diweddaru yn ein sesiwn Clwb Hwb. Mae recordiad o’r cyflwyniad i’w weld yma.
Dywedwch wrthym beth oeddech chi’n ei feddwl o’r sesiwn, p’un a wnaethoch fynychu’r digwyddiad ‘byw’ neu wylio recordiad, trwy lenwi ffurflen werthuso yma. Bydd yn ein helpu i wella a deall pa bynciau pellach yr hoffech eu cynnwys.
Mae cylchlythyr hydref Cwlwm yn ymwneud â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol wedi’u diweddaru, ac yn cynnwys astudiaethau achos o’r sector. Darllenwch ef yma.
Byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni ar gyfer Clybiau Hwb misol, ar-lein, yn y dyfodol. Gallwch archebu lle yma.
Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid yn Cwlwm a chyda phartneriaid yn AGC/Llywodraeth Cymru i lunio rhestr o Gwestiynau Cyffredin am y SGC wedi’u diweddaru, a byddwn yn rhannu’r rhai hynny cyn gynted ag y gallwn.