Diwrnod Shwmae Sumae

Beth yw Diwrnod Shwmae Sumae?

Dathlwyd y Diwrnod Shwmae Sumae cyntaf ar Hydref 15ed, 2013 i hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs â “shwmae, su’mae neu shwdi”! Nod y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – boed yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu os  ydych yn swil am ddefnyddio’ch Cymraeg. Mae’r Diwrnod yn cael ei ddathlu pob blwyddyn erbyn hyn ar y 15fed o Hydref

Pwy sy’n dathlu Diwrnod Shwmae Sumae?

CHI!  Mae’n gyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith a chda ffrindiau. Yn y gorffennol y mae wedi ei ddathlu gan  ysgolion, bwytai a gorsafoedd radio.

Sut allwch chi ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae?

Ewch i dudalen Shwmae Sumau ar Facebook a Twtter/X i gael syniadau, neu edrychwch o dan y ddolen ‘adnoddau’ ar y wefan hon.

 

http://www.shwmae.cymru/?page_id=124