Cynllun Grantiau i Sir Gaerfyrddin yn cau ar Fedi’r 10fed!

Mae’r ariannu grant cyfalaf ar gael i’r canlynol yn Sir Gaerfyrddin: 

  • Gwarchodwyr Plant £10,000 
  • Darparwyr Gofal Plant cofrestredig ar gyfer 15 lle neu drosodd  £10,000 
  • Darparwyr Gofal Plant cofrestredig ar gyfer  16 i 29 lle £15,000 
  • Darparwyr gofal plant cofrestredig ar gyfer 30+ o leoedd £20,000.   

 Pwy all ymgeisio? 

Gofal dydd llawn,  Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd chwarae, Gofal allysgol a Gwarchodwyr Plant. 

 Beth yw pwrpas y grant yma? 

Pwrpas y grant yw:  

  • Cynyddu’r nifer o leoedd gofal plant y gall lleoliad eu cynnig.  
  • Gwella ansawdd y cyfleusterau a’r adnoddau.  

 Y ceisiadau a flaenoriaethir fydd:  

  • Darparwyr gofal plant na chafodd eu hariannu yn 2022-23 
  • Darprwyr yn ardaloedd cyfnod 2 ehangu Dechrau’rn Deg, Cydweli, Llangynnwr 2, Llandybie, Talacharn, Llannon, Llandeilo, Llangeler, Llanymddyfri, Outreach (CDF), Tre Caerfyrddin, Penbre a Dafen.  

 Am fwy o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â: smallgrantscheme@carmarthenshire.gov.uk