Ydych chi wedi cwblhau ein Hasesiad Gofal Plant Allysgol eto? Mae hwn yn erfyn defyddiol i helpu Clybiau Gofal Plant Allysgol i adfyfyrio ar eu gwasanaeth

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi datblygu Asesiad Gofal Plant y Tu Allan i Oriau Ysgol (AGPA) i gefnogi Clybiau Gofal Plant Allysgol i adfyfyrio ar eu gwasanaeth. Mae’r AGPA’n cynnwys cwestiynau sector-benodol ar draws themâu cyfreithiol/rheoleiddiol, cyllid, llywodraethu, rheoli, datblygu staff, hyfforddiant, ansawdd a marchnata a hyrwyddo. Mae croeso i glybiau gwblhau’r AGPA eu hunain, neu, byddai un o’n Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant yn hapus i ymweld â’ch lleoliad i’ch cynorthwyo i gwblhau’r AGPA, a all wedyn fod yn sail  ‘Cynllun Gweithredu’ i nodi newidiadau y gelllid eu gwneud i wella ansawdd, cynaliadwyedd a chadernid eich busnes Gofal Plant. Bydd yr AGPA a’r Cynllun Gweithredu nid yn unig yn ‘ein helpu ni i’ch helpu chi’ i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd lle gellir gwella; gallent hefyd fod yn rhan o’ch Adolygiad Ansawdd Gofal.