Arolwg Gofal Plant a chwarae

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed eich profiadau o weithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru. Mae’r ymchwil yn ceisio cael gwell dealltwriaeth o nodweddion y gweithlu a darparu darlun cywir o’i faint a’i gyfansoddiad. Bydd y canfyddiadau’n llywio polisi yng Nghymru, yn enwedig cefnogi a datblygu’r gweithlu yn awr a thros y pum mlynedd nesaf.  

Comisiynwyd Alma Economics i gynnal y prosiect ymchwil hwn. Fel rhan o hyn, maent yn gwahodd ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae yn ogystal â rheolwyr lleoliadau i rannu eu barn yn ddienw mewn arolwg byr (disgwylir iddo gymryd dim mwy na 10 munud). Ar ddiwedd yr arolwg, bydd gennych yr opsiwn i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfweliad neu grŵp ffocws i drafod eich barn a’ch profiadau yn fwy manwl. Mae hyn yn gwbl ddewisol ac os ydych yn mynegi eich diddordeb, bydd angen i chi roi eich enw, cyfeiriad e-bost, a rhai manylion am eich safle yn y sector. Ni fydd y wybodaeth bersonol a roddwch at y diben hwn yn gysylltiedig â’ch atebion. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Sul, 10 Medi am 23:59. 

Dyma’r ddolen at yr arolwg 

Gofynnwn i  chi ddosbarthu’r  ddolen hon ymysg unrhyw ymarferwyr a rheolwyr sy’n gweithio yn eich lleoliad(au). 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth am yr ymchwil hwn, cysylltwch â Rheolwr y Prosiect Hasan Sabri (Alma Economics) yn hasan.sabri@almaeconomics.com