Allech chi fod yn llais y sector Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru?

Byddwch yn rhan o’r broses o yrru yn flaen y sector Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru – ymunwch â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr. Rydym yn derbyn enwebiadau ar gyfer aelodau newydd o’n Bwrdd ar hyn o’n bryd. Bydd eich ymwneud chi’n gymorth i ni gyflawni ein Gweledigaeth a’n Cenhadaeth drwy ein helpu i ehangu’r ymwybyddiaeth o’n gwerthoedd a’n blaenoriaethau, a chynyddu ein gwelededd ar draws cynulleidfa ehangach.  

Bydd eich profiad o Ofal Plant All-Ysgol yn cryfhau sgiliau’r Bwrdd presennol ac yn ategu atynt.    

Er mwyn dysgu mwy am Weledigaeth, Cenhadaeth a Nodau Strategol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, ynghyd â’n gwerthoedd a’n hymddygiad, ewch i’r dudalen ‘amdanon ni’ar ein gwefan.  

Mae modd ymuno â chyfarfodydd chwarterol Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ar-lein, drwy Zoom neu Teams, ac rydym yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Hydref, a fydd yn ddigwyddiad ar-lein unwaith eto eleni.  

Er mwyn dysgu am rôl aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolwr, ac i gynnig enwebiad, ewch i’n tudalendisgrifiadau swyddi Ymddiriedolwyr. 

 Os hoffech drafod y rôl cysylltwch os gwelwch yn dda. 

 Cyflwynwch gais yma