15.09.2023 |
Cyfleoedd i Fusnesau Gofal Plant yng Nghaerffili
Dyddiad cau: Medi 25 2023, 3yh
Mae gan Ysgol Gynradd Bryn, Ysgol Gynraedd Plant Iau Cwm Aber ac Ysgol Gynradd Nant y Parc ystafell ddosbarth ofal-plant ar safle’r ysgol i gefnogi cyflenwi gofal amlapiol a darpariaeth ôl-ysgol i blant a theuluoedd yr ardal leol.
Rydym yn gwhodd Mynegiannau o Ddiddordeb gan ddarparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddatblygu’r ddarpariaeth hon.
Rydym ar agor i ddarparwyr presennol sy’n dymuno datblygu darpariaethau atebol newydd, i ddarparwyr newydd ac i warchodwyr plant sy’n dymuno cofrestru fel darpariaeth-grŵp ar gyfer plant 3 blwydd oed a throsodd.
Rhagwelwn y bydd y ddarpariaeth hon wedi’i chofrestru ac yn barod i gyflenwi yn gynnar yn 2024.
Am fwy o wybodaeth a dyddiadau terfyn-amser parthed pob safle unigol, gweler ynghlwm y dogfennau Mynegiant o Ddiddordeb hyn:
- Gwahoddiad i Fynegiannau o Ddiddordeb – Ysgol Gynradd Bryn
- Gwahoddiad i Fynegiannau o Ddiddordeb – Cwm Aber
- Gwahoddiad i Fynegiannau o Ddiddordeb – Nant y Parc
Dylid anfon yr holl fynegiannau o ddiddordeb at y pennaeth ysgol perthnasol.