Y Cynnig Gofal Plant i Gymru – Newidd i ddyddiadau agor ceisiadau yn y dyfodol.

Amlygodd adborth diweddar gan rieni eu bod yn aneglur pryd y gallent wneud cais am y Cynnig gan fod dyddiadau agor ceisiadau’n amrywio ledled Cymru. Rydym felly wedi cytuno ag awdurdodau lleol y bydd dyddiad agor ceisiadau cyffredinol bellach yn berthnasol ledled Cymru er mwyn sicrhau profiad cyson i rieni a darparwyr gofal plant. O’r herwydd, bydd ceisiadau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru nawr yn agor 75 diwrnod cyn dechrau’r tymor.

Daw’r newid i rym mewn pryd ar gyfer y rhai sy’n manteisio ar leoedd Cynnig Gofal Plant o dymor yr hydref, sy’n dechrau ar Fedi’r 2ail 2024. Mae hyn yn golygu y bydd ceisiadau am ofal plant a ariennir gan y Cynnig Gofal Plant ar gyfer tymor yr hydref 2024 an agor o 19 Mehefin 2024. Fel bob amser, gofynnir i rieni sydd wedi’u cymeradwyo i dderbyn y Cynnig Gofal Plant gysylltu â’r darparwr gofal plant o’u dewis i drafod eu hanghenion, cyn sefydlu Cytundeb ar lwyfan Cynnig Gofal Plant Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth i ddarparwyr gofal plant am Gynnig Gofal Plant Cymru ar gael yma:

Darparwyr i gael cymorth gyda’r Cynnig Gofal Plant i  Gymru | LLYW.CYMRU | GOV.WALES