Mynegiadau o Ddiddordeb mewn ysgol sy’n chwilio am Ddarprwr All-Ysgol newydd yng Nghaerffili

Mae gan Ysgol Gynradd Cwm Ifor ffreutur ar safle eu hysgol i gefnogi darparu darpariaeth ar ôl ysgol i gynnig lleoedd gofal plant i blant a theuluoedd yr ardal leol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb gan ddarparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddatblygu’r ddarpariaeth hon. Rydym yn agored i ddarparwyr presennol sy’n dymuno datblygu darpariaethau lloeren newydd, darparwyr newydd ac i warchodwyr plant sy’n dymuno cofrestru fel darpariaeth grŵp ar gyfer plant 3 oed a throsodd.

Maent yn rhagweld y bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei chofrestru’n barod i’w chyflwyno o fis Medi 2024. Ffoniwch Fiona Santos am ragor o wybodaeth ar 07810 438505 neu e-bostiwch santof@caerphilly.gov.uk.

Ysgol Gynradd Cwm Ifor – Gwahoddiad i gyflwyno Mynegiannau  o Ddiddordeb

Dyddiad cau 21/06/2024