Diweddariadau AGC

Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnal digwyddiadau rhithwir ar-lein ar gyfer pob darparwr gofal plant a chwarae ym mis Tachwedd. Gofynnir i chi gwblhau arolwg byr i helpu AGC gyda threfniadau a chynnwys y digwyddiad er mwyn sicrhau eich bod yn cael dweud eich dweud.

Bydd yr arolwg yn cau ddydd Llun, 24 Hydref.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd rhai darparwyr gofal plant a chwarae yn derbyn pecyn a fydd yn cynnwys nifer o ddeunyddiau megis:

  • Poster A4
  • taflen A5 andamp; a
  • Sticeri ffenestr

 

Mae’r deunyddiau hyn yn cynnwys dolen a chod QR, unwaith y bydd wedi’i sganio bydd yn cyfeirio pobl yn syth at adran adborth gwefan AGC. Hoffem i chi arddangos y deunyddiau hyn yn eich gwasanaeth i annog cymaint o staff, pobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau a’u perthnasau i lenwi’r ffurflenni adborth hyn.  Yn y pen draw bydd pob math o ddarparwyr gofal plant a chwarae yn derbyn y deunyddiau hyn.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu ddeunyddiau digidol i chi eu lawrlwytho a’u rhannu o fewn eich rhwydweithiau / grwpiau eich hun. Bydd yr holl ddeunyddiau hyn ar gael ar wefan AGC yn fuan.