Ymgynghoriad – cynllun cyflenwi stragegaeth Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru 2023 i 2026

Yr haf diwethaf, fe wnaethom gynnal digwyddiadau ymgysylltu i’n helpu i lunio cam nesaf y broses o gyflawni Cymru Iachach:  ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gwnaethom wrando ar yr hyn a oedd gennych i’w ddweud ac rydym wedi nodi’r prif themâu, wedi adolygu gwybodaeth am y gweithlu, adroddiadau ymchwil ac ymrwymiadau polisi, ac wedi cyfarfod â rhanddeiliaid i ddatblygu cam gweithrefu nesaf ar gyfer 2023 i 2026.

Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar y Gweithlu (NWIP) ar gyfer y GIG eisoes wedi’i gyhoeddi, felly mae’r cynllun cyflawni hwn yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol a chamau gweithredu ar y cyd â’n partneriaid iechyd.

Rydym am glywed amrywiaeth o farnau am y cynllun hwn, gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn ogystal â’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, gofalwyr a gwirfoddolwyr.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am y camau gweithredu drafft ar gyfer 2023 i 2026, cyn inni lansio cynllun gweithredu terfynol yn yr hydref 2023.

https://gofalcymdeithasol.cymru/ymgynghoriadau/ymgynghoriad-strategaeth-gweithlu