15.06.2023 |
Y Canllawiau ar reolaeth ariannol fewnol i Ymddiriedolwyr wedi eu diweddaru
Mae rheolaethau ariannol mewnol yn bwysig i bob elusen. Maent yn wiriadau a gweithdrefnau hanfodol sy’n eich helpu i ddiogelu asedau eich elusen, nodi a rheoli risgiau, a gwneud penderfyniadau gwybodus am sefyllfa ariannol eich elusen.
Yn ddiweddar, mae’r Comisiwn Elusennau wedi diweddaru ei ganllawiau ar reolaethau ariannol (a elwir yn CC8) i gynnwys risgiau a gyflwynir gan dechnoleg mwy newydd fel crypto-asedau. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru yn esbonio’r rôl rheolaethau ariannol mewnol cryf yn y broses o sicrhau y gall ymddiriedolwyr ddiogelu adnoddau eu helusen.