Cyflwyno Mentor Cymunedol Gwrth-Hiliol Llywodraeth Cymru, Areatha Comanescu

Cyflwyno Mentor Cymunedol Gwrth-Hiliol Llywodraeth Cymru, Areatha Comanescu 

Cefais fy ngeni yng Nghyprus gan fod fy Nhad yn yr RAF. Mae fy nhreftadaeth yn gymysgedd o Ddu-Affro Caribïaidd gyda neiniau a neiniau a neiniau a theidiau o St Lucia, Antigua, UDA, neiniau a theidiau gwyn, Taid a Hen Taid o Hull, Iwerddon a Copenhagen.   Mae gen i 2 o blant, sydd, yn ogystal â’r gymysgedd wych o fy nhreftadaeth i, hefyd yn meddu ar dreftadaeth eu tad Rwmanaidd.  

Fel gweithiwr Gofal Plant a Gweithiwr Chwarae sydd â phrofiad helaeth o weithio mewn swydd â thâl, ac yn wirfoddol am 36 mlynedd yn y DU, Romania a Periw, mae gen i ddiddordeb brwd mewn hyrwyddo’r sectorau hyn a chodi eu proffil i sicrhau gwell dealltwriaeth o’u gwerth ac yn enwedig manteision Chwarae wrth gyflawni canlyniadau cadarnhaol ym mywydau pob plentyn. 

Er enghraifft, mae Caerdydd yn cynnwys cymunedau amryweddol, a  chredaf ei bod yn bwysig bod mwy o gynrychiolaeth o’r cymunedau amryweddol hyn yn y sector Gofal Plant a Gwaith Chwarae. Rwy’n falch iawn o fod yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hymdrechion i ddatblygu ymddygiad a pholisïau gwrth-hiliol ar gyfer y ddau sector yn fy rôl newydd fel Mentor Cymunedol Gwrth-hiliol.  

Mae rhedeg Clwb All-Ysgol yng Nghaerdydd, bod yn Ymddiriedolwr i Glybiau Plant Cymru Kids Clubs, bod yn gyfieithydd ar-y-pryd, dysgu i siarad Rwmaneg wrth wirfoddoli yn Rwmania ar wahanol adegau rhwng 1992 a 1996, gwirfoddoli gyda The Birth Partner Project – elusen sy’n gweithio gyda menywod beichiog sy’n geiswyr lloches neu’n ffoaduriaid – a’u cefnogi, oll wedi rh oi mewnwelediad I mi I gofleidio’r rôl newydd gyffrous hon.  Mae 3 phrif nod i’r sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru: 

  1. Gwella’r  profiad o fewn y gweithle fel y bydd STaf yn gweithio mewn amgylcheddau diogel, cynhwysol, wedi’u seilio ar bod yn gyngheiriaid, sy’n cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn, a chael eu grymuso i adnabod, a mynd i’r afael ag, arferion hiliol. 
  1. Cynnig darpariaeth sy’n fwy priodol yn ddiwylliannol, gwella mynediad at leoliadau gofal plant a gwaith chwarae yn ogystal â chyfleoedd i chwarae. 
  1. Gwella profiad plant fel y bydd pob plentyn yn cael cyfle i archwilio a dathlu amrywedd hiliol  mewn ffordd gadarnhaol a chefnogol. 

Gall stereoteipiau a syniadau rhagdybiedig am bobl groenliw achosi rhaniadau a chreu rhwystrau i bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.   Mae’n bwysig mynd i’r afael â hyn wrth edrych ar y sector Gofal Plant a Gwaith Chwarae a bod lleisiau’r rhai o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig nid yn unig yn cael eu clywed, ond yn cael eu clywed mewn gwirionedd.  Mae  angen i bawb ymrwymo i greu amgylchedd sy’n gynhwysol ac yn groesawgar i’n staff ac i’r teuluoedd sy’n cyrchu ein darpariaeth.  

Rwy’n ffodus i weithio mewn tîm bach ond amryweddol sy’n darparu gofal plant a chyfleoedd chwarae i blant 4-11 oed. Rwy’n teimlo bod hyn yn rhoi’r fantais i ni o rannu ein profiadau a’n safbwyntiau amrywiol, sydd yn ei dro yn ein cefnogi i gael gwell dealltwriaeth o anghenion plant o gymunedau amryweddol. 

Rwy’n gweithio’n galed i feithrin perthynas dda gyda staff yr ysgol, y rhieni a’r plant ac rwy’n credu bod hyn yn helpu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a dibynadwy yn y lleoliad sy’n ymestyn i’r tu allan i’r lleoliad ac i’r gymdeithas amlddiwylliannol yr ydym yn byw ynddi. Mae cynnwys gweithgareddau sy’n archwilio ac yn dathlu gwahanol ddiwylliannau a’n gwahaniaethau yn allweddol wrth ddatblygu arferion gwrth-hiliol mewn lleoliadau Gofal Plant a Gwaith Chwarae a chreu amgylchedd lle mae Cydraddoldeb ac Amrywedd yn cael eu parchu.  

Yn ystod fy 22 mlynedd mewn Gwaith Chwarae, rwyf wedi profi achlysuron lle bu’n rhaid herio ymddygiad neu iaith wahaniaethol, tra ar yr un pryd ystyried y gwahaniaethau diwylliannol a chrefyddol a allai ddylanwadu ar farn unigolyn. 

Wrth fyfyrio ar fy rôl fel Gweithiwr Chwarae, rwy’n aml yn gobeithio ynof fi fy hun fy mod yn gwneud gwahaniaeth ac yn cael effaith gadarnhaol ar y plant rwy’n gofalu amdanynt. Rwyf hefyd yn meddwl yn ôl i fy mhlentyndod fy hun a’r ffaith nad oedd athrawon, athrawon ysgolion Sul, arweinwyr grwpiau ieuenctid, athrawon ysgol ddawns nac athrawon cerdd ag wynebau du neu frown, ac erbyn hyn mae gen i ddealltwriaeth well o lawer o ba mor bwysig yw hi i blant deimlo bod ganddyn nhw rywun y gallan nhw uniaethu ag ef.  

 

Adnoddau pellach 

Adnoddau Ymarfer Gwrth-hiliol | Cwlwm [Adnoddau Ymarfer Gwrth-hiliol | cwlwm] 

Cefnogi Cymru wrth-hiliol mewn clybiau all-ysgol [Cefnogi Cymru Gwrth-Hiliol mewn Clybiau Allysgol – Clybiau Plant Cymru (CY)]