Arweiniad newydd ar ddiogelu iechyd / atal heintiau i leoliadau gofal plant

Mae’r Diogelu iechyd mewn lleoliadau plant a phobl ifanc, yn cynnwys sefydliadu addysg  newydd wedi disodli’r arweiniad blaenorol ar Reoli Heintiau mewn lleoliadau gofal plant.

Hefyd mae’r Erfyn Archwilio Atal a Rheoli Heintiau (Iechyd Cyhoeddus Cymru) wedi ei gyhoeddi.

Gwelir y ddau gyhoeddiad ar wefan newydd Tîm Diogelu Iechyd AWARE/ Tîm Diogelu Iechyd – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru), sydd hefyd yn cynnwys manylion cysylltu ac adnoddau allweddol.  I weld yr arweiniad newydd, dilynwch y dolenni o dan Arweiniad i leoliadau cyn-ysgol ac addysgol – Iechyd    Cyhoeddus Cymru (gig.cymru).

Mae’r ddolen ddiweddaraf hon yn cynnwys:

  • Cyfnodau gwahardd ar gyfer Heintiau Cyffredin (Mai 2023)
  • Erfyn Archwilio Atal a Rheoli Heintiau Cymru Gyfan ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant ac Addysgol (2023)
  • Diogelu Iechyd mewn Lleoliadau Plant a Phobl Ifanc gan gynnwys Addysg (2023)
  • Enghraifft o Amserlen Lanhau ar gyfer Lleoliadau Addysg a Gofal Plant (2023)
  • Enghraifft o Restr Wirio o Fesurau i’w defnyddio yn ystod Achosion (2023)

Enghraifft o Ffurflen Cofnodi Achosion ar gyfer Ysgolion a Lleoliadau Gofal Plant (2023)